Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012 

 

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Addysg a Sgiliau ac fe'i gosodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â:

 

Rheol Sefydlog 27.1

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2012. Rwy'n fodlon bod y manteision yn drech nag unrhyw gostau.

 

 

 

 

 

Leighton Andrews AC

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

13 Rhagfyr 2012

 


1. Disgrifiad

1.1 Diben y Gorchymyn yw rhagnodi bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn 'gorff cyhoeddus' at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (‘Deddf 1993’). O dan Ran II o Ddeddf 1993, gall Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw sefydliad sy'n 'gorff cyhoeddus' i gynhyrchu Cynllun Iaith Gymraeg. Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi'i ddiddymu erbyn hyn ac mae'r swyddogaeth i roi hysbysiad o dan Ran II o Ddeddf 1993 wedi ei throsglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg drwy rinwedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

2. Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dim

3. Y Cefndir Deddfwriaethol

 

 3.1 Caiff y Gorchymyn hwn ei wneud o dan adran 6(1)(o) o Ddeddf 1993. Mae Adran 6(1)(o) yn darparu bod unrhyw berson (boed yn gorff corfforaethol neu anghorfforaethol neu beidio) yr ymddengys i'r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus ac sydd wedi'i ragnodi drwy orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion Rhan II o Ddeddf 1993 yn ‘gorff cyhoeddus’. 

 

3.2 Cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y cânt eu harfer mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy rinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru drwy adran 162, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

3.3 Sefydlwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru drwy Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (OS 2012/1903(Cy.230)).

 

3.4 Gellid dirymu'r Gorchymyn (y weithdrefn negyddol) drwy rinwedd adran 6(2) o Ddeddf 1993.

 

4. Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael

 

4.1 Diben y Gorchymyn yw rhagnodi bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn ‘gorff cyhoeddus’ at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae Adran 6 y Ddeddf yn rhestru amrywiol gyrff cyhoeddus at ddibenion rhan II y Ddeddf ac yn darparu fel y gall yr Ysgrifennydd Gwladol ragnodi cyrff cyhoeddus eraill at y dibenion hynny. Trosglwyddwyd y pŵer hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

 

4.2 O dan adran 7 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, gall y Comisiynydd Iaith roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw sefydliad sy'n 'gorff cyhoeddus' i gynhyrchu Cynllun Iaith Gymraeg. Diben y Cynlluniau yw rhoi effaith i'r egwyddor a sefydlwyd yn y Ddeddf y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Diben ac effaith y Gorchymyn hwn fydd galluogi'r Comisiynydd i roi hysbysiad i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru baratoi Cynllun Iaith Gymraeg.

 

4.3 Y bwriad, pan gafodd y Ddeddf ei phasio, oedd y byddai’n berthnasol i’r sector cyhoeddus cyfan. Cafodd Adran 6 o Ddeddf 1993 ei drafftio'n fras er mwyn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i enwi amrediad eang o gyrff sy'n ymgymryd â swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mae chwech Gorchymyn blaenorol a oedd yn enwi cyrff eraill eisoes wedi cael eu gwneud.

4.4 Pe na fyddai'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud, ni fyddai Comisiynydd y Gymraeg yn gallu rhoi hysbysiad i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo gynhyrchu Cynllun Iaith Gymraeg.

 

4.5 Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) yn atodiad 1 yn trafod y costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, gynllun statudol. 

 

5. Ymgynghori

 

5.1 Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phrif Weithredwr Corff Adnoddau Naturiol Cymru a Bwrdd Rhaglen Cymru Fyw, sy'n gyfrifol am sefydlu Corff Adnoddau Naturiol Cymru, yr un corff amgylcheddol, ar 1 Ebrill 2013. Ceir canlyniad yr ymgynghoriad hwnnw yn yr RIA yn atodiad 1.

 


Atodiad 1

 

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Yr Opsiynau

 

Mewn perthynas â Chyfoeth Naturiol Cymru, ystyriodd Gweinidogion Cymru yr opsiynau canlynol:

 

a) Gwneud Dim

 

Ystyriodd Gweinidogion Cymru pa mor briodol oedd gwneud Gorchymyn i alluogi gwaith i baratoi cynllun iaith Gymraeg, gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ar adeg pan weithredir polisi (a gyflwynwyd gan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011) o symud o gynlluniau i safonau iaith Gymraeg. Er hynny, bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn sefydliad newydd ac uchel ei broffil, a chryn ddiddordeb gan y cyhoedd yn ei waith, ag iddo hefyd amrywiaeth eang o randdeiliaid. Caiff hefyd ei ffurfio drwy uno tri sefydliad a chanddynt gynlluniau iaith Gymraeg a gymeradwywyd, ac elfennau ohonynt yn cael eu hystyried gan lawer fel enghreifftiau sydd ar flaen y gad o ran arfer da.

 

At hynny, mae'n debygol na fydd Comisiynydd y Gymraeg mewn sefyllfa am gryn amser i gyhoeddi hysbysiad cydymffurfio i Gyfoeth Naturiol Cymru o dan adran 45 o Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau. Cyn y gellir cyhoeddi'r hysbysiad hwnnw, byddai rhaid i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i ddiwygio Atodlen 6 y Mesur i gynnwys Corff Adnoddau Naturiol Cymru fel corff a allai fod yn agored i gydymffurfio â safonau. Bydd rhaid gwneud rheoliadau i ragnodi safonau ac i roi awdurdod i Gomisiynydd y Gymraeg roi hysbysiad cydymffurfio i Gyfoeth Naturiol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r safonau a ragnodwyd. Yn y cyfamser, pe na fyddai gan Gyfoeth Naturiol Cymru gynllun iaith Gymraeg y gellir ei orfodi, byddai hynny'n debygol o olygu bod cyfnod hir o amser rhwng pontio o'r tri chorff presennol (Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd), â'u cynlluniau gorfodadwy, a gorfodi safonau ar Gyfoeth Naturiol Cymru. 

 

Yn y cyfamser, gallai Corff Adnoddau Naturiol Cymru baratoi cynllun gwirfoddol. Fodd bynnag, pe byddai'r opsiwn hwnnw yn cael ei ddewis, ni allai Comisiynydd y Gymraeg fynd i'r afael ag achosion o dorri'r Cynllun. Gallai hyn arwain at feirniadu Gweinidogion Cymru am iddynt beidio â rhagnodi'r corff o dan Adran 6 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

b) Dynodi Corff Adnoddau Naturiol Cymru o dan Adran 6(1)(o) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

 

O gynnwys Corff Adnoddau Naturiol Cymru mewn Gorchymyn, bydd rheidrwydd arno i baratoi cynllun iaith Gymraeg statudol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, wedi iddo gael ei hysbysu gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rhaid i'r cynllun gael ei baratoi yn unol â'r Canllawiau a'r Cyngor Statudol a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a byddai'n nodi'r mesurau y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn cynnig eu cymryd at ddibenion rhoi effaith i'r egwyddor y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

 

Penderfynodd Bwrdd Rhaglen Cymru Fyw, sy'n gyfrifol am sefydlu'r un corff amgylcheddol newydd, Corff Adnoddau Naturiol Cymru, ar 1 Ebrill 2013, yn gynnar yn y broses i barhau i ddatblygu cynllun iaith Gymraeg ffurfiol ar gyfer Corff Adnoddau Naturiol Cymru, y gellid ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg, ac a fyddai'n cael effaith ar 1 Ebrill 2013.  Byddai paratoi cynllun statudol hefyd yn helpu i hwyluso uchelgais unedig o ran y Gymraeg yn y Corff Adnoddau Naturiol Cymru. At hynny, byddai paratoi cynllun statudol hefyd yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i fynd i'r afael ag unrhyw enghreifftiau o dorri'r Cynllun.

 

Costau a Manteision

 

a) Manteision

 

Bydd y Gorchymyn yn caniatáu i gynllun iaith Gymraeg statudol gael ei datblygu, a'i gweithredu, gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

Bydd y Cynllun yn golygu bod pobl sydd am ddefnyddio'r Gymraeg wrth gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru yn cael gwell mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Bydd manylion y manteision i ddefnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru yn dibynnu ar delerau cynllun Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac ni ellir, felly, eu rhagweld yn union ar hyn o bryd. Er hynny, bydd rhaid i'r cynllun gydymffurfio â chanllawiau a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Gorffennaf 1995, a chyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

Bydd y Gorchymyn yn caniatáu ar gyfer cymhwyso ymhellach yr egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Mae'r Gorchymyn yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru o gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd hefyd yn cyfrannu at un o nodau Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Iaith Fyw: Iaith Byw [Llywodraeth Cymru, Mawrth 2012] (Maes strategol 5: Gwasanaethau Cymraeg).

 

Gallai peidio â gwneud Gorchymyn, a dibynnu ar Gyfoeth Naturiol Cymru i baratoi cynllun iaith Gymraeg gwirfoddol gael yr un manteision. Fodd bynnag, ni fyddai Comisiynydd y Gymraeg yn gallu mynd i'r afael ag unrhyw enghreifftiau o berfformiad gwael ar ran Corff Adnoddau Naturiol Cymru o ran darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

 

b) Costau

 

Ni fydd yn bosibl rhagweld yn union fanylion y manteision a ddaw i ran defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru o ganlyniad i'r Cynllun Iaith Gymraeg, a fydd yn bosibl yn sgil y Gorchymyn hwn, yn yr un modd ac, ni fydd mewn gwirionedd yn bosibl ychwaith rhagweld yn gywir y costau a fydd yn gysylltiedig â hyn. Fodd bynnag, nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru na Llywodraeth Cymru yn debygol o ysgwyddo unrhyw gostau.

 

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu paratoi gan ystyried yr hyn sy'n rhesymol ymarferol a phriodol o dan yr amgylchiadau ar gyfer y sefydliad dan sylw. 

 

Bydd costau gweithredu unrhyw gynllun iaith Gymraeg newydd yn dibynnu hefyd ar y lefel bresennol o ddarpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg, a'r hyn a gynlluniwyd ar gyfer y dyfodol. Mae darparu gwasanaeth dwyieithog yn cael ei dderbyn fel arfer da ac mae'n dod yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru. Mae rhai sefydliadau wedi datblygu cynlluniau neu bolisïau iaith Gymraeg gwirfoddol - neu'n darparu rhai gwasanaethau dwyieithog yn wirfoddol - gan eu bod yn eu hystyried fel arfer da ac yn dda o ran cysylltiadau cyhoeddus. Pan fydd sefydliad eisoes wedi dechrau symud i'r cyfeiriad hwn, bydd costau gweithredu yn is na chostau sefydliad sydd wedi cymryd rhai camau yn unig tuag at ddarpariaeth ddwyieithog.

 

Pasiwyd Deddf 1993 ar y sail y byddai unrhyw gostau ychwanegol y gellid eu hysgwyddo yn cael eu talu o gyllideb brif ffrwd y corff; cafodd hyn ei nodi mewn Memorandwm Ariannol a gyflwynwyd i'r Senedd ar y pryd, gyda'r Bil. Byddai mabwysiadu agwedd arall yn awgrymu mai ar gyfer darparu gwasanaeth Saesneg yn unig y caiff arian cyhoeddus ei roi.

 

Caiff y costau cysylltiedig eu talu gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ni fydd unrhyw gostau, fel arall, i lywodraeth leol, y trydydd sector, nac i'r sector busnes.

 

Mae pob un o'r cyrff cyhoeddus a fydd yn cael eu huno i ffurfio Corff Adnoddau Naturiol Cymru (sef Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd) eisoes yn gweithio yn unol â chynlluniau iaith Gymraeg a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. O ystyried hynny, bydd y costau cylchol i Gyfoeth Naturiol Cymru yn is na'r costau pe na fyddai'r tri chorff perthnasol yn gweithredu cynlluniau ar hyn o bryd. Mae Bwrdd Rhaglen Cymru Fyw wedi cael y cyfle i roi amcangyfrif o'r costau y maent yn eu rhagweld o ran gweithredu'r Cynllun.

 

Mae Prif Weithredwr Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi cadarnhau bod Bwrdd Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn awyddus i gyhoeddi cynllun drafft cyn gynted ag sy'n bosibl, gyda'r bwriad o roi cynllun iaith Gymraeg ar waith erbyn 1 Ebrill 2013. Mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn nodi'r angen i brif ffrydio'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu cynllun iaith Gymraeg. Gan mai sefydliadau a chanddynt eisoes gynlluniau iaith Gymraeg sy'n uno i ffurfio Corff Adnoddau Naturiol Cymru, mae'r costau sydd ynghlwm wrth weithredu cynllun iaith Gymraeg eisoes wedi cael eu hystyried a'u cydnabod. 

 

Byddai peidio â gwneud Gorchymyn, a dibynnu ar Gyfoeth Naturiol Cymru i baratoi cynllun iaith Gymraeg gwirfoddol yn golygu'r un gost i'r sefydliad.

 

Ymgynghori

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu'n ffurfiol at Brif Weithredwr Corff Adnoddau Naturiol Cymru a Bwrdd Rhaglen Cymru Fyw i ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig. Mae trafodaethau wedi'u cynnal hefyd â Bwrdd Rhaglen Cymru Fyw, a rhwng y Bwrdd a Chomisiynydd y Gymraeg, er mwyn cael eglurhad o'r hyn a fydd yn ddisgwyliedig gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn dilyn y trafodaethau hynny, ni fynegwyd unrhyw wrthwynebiad i orfod cynhyrchu a gweithredu cynllun iaith Gymraeg.  Fel y nodwyd uchod, mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn awyddus i roi ei gynllun iaith Gymraeg ar waith erbyn 1 Ebrill 2013 ac felly mae'n barod i gael ei enwi yn y Gorchymyn.

 

Adolygu ar ôl gweithredu

 

Mater i Gomisiynydd y Gymraeg fydd monitro'r modd y caiff cynllun iaith Gymraeg Corff Adnoddau Naturiol Cymru ei weithredu.